Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi siarad am y sgandal o orfodi gosod mesuryddion rhagdalu ynni.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths bod y mater mewn "llawer o ffyrdd y enghtaifft berffaith o wleidyddiaeth dideimlad San Steffan a'r farchnad ynni yr ydym yn gorfod delio ag ef yn y DU."
Dywedodd Aelod Senedd Dwyrain De Cymru hefyd ei bod yn symptomatig o'r ffordd y mae pobl mewn dyled yn cael eu targedu'n gyffredinol yn y DU, gan gyfeirio at yr enghraifft o'r ffordd y mae cwmnïau beilïaid yn gweithredu.
Wrth siarad mewn dadl yn y Senedd, dywedodd Mr Owen Griffiths: "Sut gyrhaeddon ni'r sefyllfa yma, lle'r oedd mynediad gorfodol i gartrefi pobl yn cael ei wneud heb ganiatâd ar raddfa ddiwydiannol i ffitio mesuryddion rhagdalu yn erbyn eu dymuniadau?
"I ychwanegu at y sarhad ar anaf, byddai'r rhai ar fesuryddion rhagdalu yn talu llawer mwy am eu nwy a'u trydan yn y pen draw na rhywun sy'n talu ar ddebyd uniongyrchol.
"Mae hyn yn golygu y byddai miliwnydd yn talu llai am bob uned o nwy a thrydan na rhywun sy'n derbyn budd-daliadau, sydd yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
"Sut oedd hynny erioed yn gyfreithlon?"
Ychwanegodd: "Mae teuluoedd wedi bod yn oer y gaeaf hwn oherwydd y sgandal yma. Mae pobl hŷn wedi eistedd yn y tywyllwch oherwydd y sgandal yma.
"Mae pobl wedi marw oherwydd y sgandal yma.
"Mae hyn i gyd wedi mynd ymlaen tra bod ein cwmnïau ynni wedi bod yn gwneud yr elw uchaf erioed; elw sydd wedi ei wneud ar gefnau pobl mewn diflastod.
"Mewn maes gorlawn, dyma un o'r enghreifftiau mwyaf brawychus o annhegwch y gallwn ei weld yn y DU heddiw."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter