Cafodd llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth daith y tu ôl i'r llenni o'r diwydiant rheilffyrdd i weld sut mae signalau yn gweithio a sut maent y cludo nwyddau ar y trên.
Tywyswyd â Peredur Owen Griffiths ar daith o amgylch Canolfan Weithredu Rheilffyrdd Network Rail Cymru yng Nghaerdydd a depo Freightliner yn Gwynllŵg lle mae archebion mawr ar gyfer cwmnïau fel Tesco yn cael eu dadlwytho ar y rheilffordd a'u cludo allan mewn cynwysyddion.
Dangoswyd dwy bont newydd hefyd i'r Aelod Senedd dros ranbarth Dwyrain De Cymru dros draciau yng ngorsafoedd Cwmbrân a'r Fenni fel rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd i wella mynediad.
Dywedodd Peredur: "Roedd yn wych cael cipolwg ar agweddau ar y diwydiant rheilffyrdd sydd efallai heb eu gweld ond sy'n hollol hanfodol. Roedd Canolfan Weithredu Rheilffyrdd Network Rail Cymru yng Nghaerdydd yn drawiadol am ba mor slic y mae'n cael ei reoli a sut mae digwyddiadau yn cael eu trin.
"Mae tîm ymroddedig yn barod 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i sicrhau bod digwyddiadau fel tywydd garw neu dresmasu yn cael eu trin yn ddiogel ac yn gyflym.
"Dros ochr arall yr adeilad oedd lle mae'r signalau ar gyfer y rhwydwaith trenau yng Nghymru yn cael ei rheoli. Gwnaeth y staff yno argraff gyda'u hymroddiad a'u diwydrwydd i sicrhau diogelwch ar ein rheilffyrdd."
Ychwanegodd Peredur: "Roedd yr ymweliad â depo Freightliner yn Gwynllŵg yn ddiddorol iawn. Mae'n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod ein heconomi yn parhau i symud.
"O safbwynt amgylcheddol, mae hefyd yn bwysig oherwydd mae'r depo yma yn cymryd cannoedd o lorïau oddi ar ein ffyrdd bob dydd.
"Roedd hefyd yn wych gweld sut mae buddsoddiad yn cael ei wneud i wneud ein gorsafoedd yn hygyrch i bawb. Dylai pobl ag anableddau gael pob cyfle i deithio ar y trên.
"Rwy'n diolch i bawb sy'n ymwneud â chynnal yr ymweliadau hyn ac am eu hamser yn dangos i mi y tu ôl i'r llenni o'n diwydiant rheilffyrdd hanfodol."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter