Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu'r llawr cyllido o 2% i o leiaf 3% er mwyn lleddfu'r pwysau ariannol sy'n wynebu cynghorau ledled Cymru ar hyn o bryd, meddai Plaid Cymru.
Bydd cyllid canlyniadol ychwanegol o tua £25 miliwn yn cael ei roi i Gymru yn dilyn cyhoeddiad munud olaf gan Lywodraeth y DU i achub Cynghorau Lloegr sy'n wynebu argyfwng ariannol.
Methodd Llafur â chefnogi Llywodraeth Leol yn ddigonol ac i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus yn eu cyhoeddiad cyllideb ddrafft cyn y Nadolig, wrth i Awdurdodau Lleol ledled Cymru barhau i wynebu pwysau digynsail.
Er nad oes sicrwydd y bydd symiau canlyniadol o Loegr yn cael eu dyrannu i Lywodraeth Leol yng Nghymru, bydd Plaid Cymru yn annog Llafur i gyfeirio'r arian at Gynghorau a chodi'r llawr cyllido i o leiaf 3%.
Gan y bydd Cynghorau yng Nghymru yn cymeradwyo eu cyllidebau ddiwedd mis Chwefror ac eisoes mewn ymgynghoriad â'r cyhoedd ar sut y gellir gwario arian, rhaid i Lafur roi eglurder ar frys am eu bwriadau mewn gwariant canlyniadol.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Peredur Owen Griffiths AS: "Bydd Plaid Cymru yn pwyso am eglurder brys gan y Llywodraeth Lafur ynglŷn â sut y bydd arian ychwanegol yn cael ei wario yng Nghymru.
"Rhaid defnyddio cyllid canlyniadol o tua £25 miliwn i godi'r llawr cyllido i o leiaf 3%, a fyddai o fudd sylweddol i lawer o awdurdodau lleol lle gallai gwasanaethau o ddydd i ddydd fod mewn perygl, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig.
"Rhaid gwneud hyn yn gyflym cyn i gynghorau gymeradwyo eu cyllidebau ddiwedd Chwefror.
"Yn y tymor hir, mae'r cyhoeddiad hwn eto yn profi pa mor annheg yw'r setliad cyllido presennol i Gymru - gan orfod dibynnu ar benderfyniadau gwleidyddol yn Lloegr i ariannu gwasanaethau hanfodol sy'n cael eu darparu drwy Lywodraeth Leol.
"Bydd Plaid Cymru yn parhau i frwydro am gyllid tecach i Gymru."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter