Ymwelodd dau Aelod Plaid Cymru o'r Senedd â Chasnewydd i weld y gwaith hanfodol y mae’r eglwys a’r elusen yn ei wneud i gefnogi pobl ddigartref.
Ymunodd arweinydd y blaid Rhun ap Iorwerth ag AS Dwyrain De Cymru, Peredur Owen Griffiths, mewn ymweliad â chanolfan Byddin yr Iachawdwriaeth yng nghanol y ddinas. Yno clywsant am sut maen nhw'n gweithio i gael pobl ddigartref oddi ar y stryd ac i mewn i gyflogaeth.
Roedd un dyn - Chris - sydd ar hyn o bryd yn ddigartref ac yn cael ei gefnogi gan Fyddin yr Iachawdwriaeth i sicrhau cartref, i ddweud wrthynt am ei brofiadau o fyw'n ar y stryd ac amlinellu'r help y mae'n ei dderbyn.
Cyn gadael, ymwelodd y pâr â'r caffi a'r siop elusen ar y safle lle gwnaethant gwrdd â grŵp gwau lleol.
Dywedodd y Capten Kathryn Stowers o Fyddin yr Iachawdwriaeth Casnewydd: "Roedd yn dda croesawu Rhun a Peredur i'n canolfan yng Nghasnewydd. Roedd ganddyn nhw ddiddordeb mewn gweld sut rydyn ni'n gweithio yn ein heglwys yn ogystal â'n caffi a'n siop elusen Safe Haven a siaradodd â rhai o'n grŵp crefft Knitwits.
"Fe wnaethon nhw hefyd gwrdd â Chris, a siaradodd am sut mae ein tîm allgymorth yn ei helpu i ddelio â digartrefedd ac yn gweithio i sicrhau cartref parhaol iddo'i hun, lle bydd yn teimlo'n ddiogel.
"Mae angen mwy na tho dros eu pennau ar bobl sy'n ddigartref, mae angen help arnynt i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol eu sefyllfa."
Dywedodd Peredur: "Rwyf wedi ymweld â safleoedd Byddin yr Iachawdwriaeth mewn mannau eraill ond roedd yn dda mynd i'w canolfan yng Nghasnewydd o'r diwedd a gweld beth maen nhw'n ei wneud i helpu'r rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas.
"Roedd y caffi yn brysur ac yn darparu lleoliad cynnes gyda bwyd a diodydd poeth wedi'u gweini am brisiau rhesymol iawn.
"Wrth drafod eu prosiectau amrywiol, disgleiriodd eu tosturi drwodd ym mhopeth maen nhw'n ei wneud.
"Sefydliadau fel Byddin yr Iachawdwriaeth yw'r rheng flaen wrth frwydro yn erbyn tlodi, iechyd meddwl a chorfforol gwael. Mae'r sefydliadau hyn yn haeddu ein cefnogaeth lawn a dylid eu hariannu yn unol â hynny os ydym am amddiffyn y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas."
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth: "Rwy'n ddiolchgar i Gorfflu Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghasnewydd am y croeso cynnes yr wythnos hon ac am roi cipolwg i ni ar eu gwaith pwysig yn cefnogi'r rhai mwyaf bregus yn y gymuned.
"Ar adeg pan mae llunwyr polisi yn dewis gorfodi llymder ar y rhai lleiaf cyfoethog yn y gymdeithas gyda thoriadau eang i'r gyllideb nawdd cymdeithasol, mae pwysigrwydd sefydliadau fel hyn sy'n camu i mewn i ddarparu cymorth i'r rhai sydd ei angen fwyaf yn dod yn fwy amlwg.
"Mae'n hanfodol bod elusennau fel hyn yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i ddarparu gwasanaethau pwysig i'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter