Mae Peredur Owen Griffiths wedi ceisio cefnogaeth drawsbleidiol i gondemnio'r tywallt gwaed parhaus yn Gaza.
Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru wedi cyd-gyflwyno cynnig gyda chefnogaeth drawsbleidiol sydd hefyd yn cydnabod gweithred De Affrica yn erbyn Israel yn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol (ICJ) am dorri confensiwn hil-laddiad 1948.
Cyhoeddwyd Datganiad Barn y Senedd yn yr un wythnos ag y cyflwynodd ASau Plaid Cymru gynnig yn San Steffan yn croesawu achos De Affrica ac yn annog Llywodraeth y DU i ystyried ei dadl yn ofalus.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: "Dylai'r gwrandawiad hwn fod yn alwad deffro i'r llywodraethau gorllewinol hynny sydd wedi caniatáu blanche carte i Israel yn ei hymateb milwrol.
" Cyflwynodd De Affrica achos perswadiol, gan honni bod Israel yn methu ag atal hil-laddiad ac yn mynd yn groes i’r confensiwn hil-laddiad—mater y mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ei ystyried yn ofalus."
Mae cynnig Peredur, a gafodd ei gyd-gyflwyno gyda Jane Dodds a John Griffiths, yn darllen:
Mae'r Senedd hon:
- Yn cydnabod y trais parhaus yn Gaza sydd wedi arwain at dros 22,000 o farwolaethau.
- Yn croesawu cais De Affrica am fesurau dros dro gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol i atal gweithredoedd hil-laddiad.
- Yn annog Llywodraeth y DU i gynnal eu dyletswydd i atal hil-laddiad o dan Gonfensiwn Hil-laddiad 1948 ac i osgoi bod â rhan ynddo.
- Yn parhau i gefnogi'r rhai yng nghymdeithas Cymru sy'n galw am gadoediad ar unwaith, am ryddhau gwystlon o Israel a charcharorion o Balesteina, ac am roi diwedd ar y gwarchae.
- Yn galw ar Israel i gydymffurfio ag unrhyw 'fesurau dros dro' rhwymol sy'n deillio o hynny gyda'r nod o ddiogelu hawliau dynol Palestiniaid, gan gynnwys cadoediad.
Os hoffech weld pwy sydd wedi cefnogi'r Datganiad Barn, cliciwch y ddolen hon.
Dywedodd Peredur: "Pan gyflwynodd Plaid Cymru achos cymhellol yn y Senedd dros gadoediad parhaol yn Gaza, roedd yn gyfle i Gymru anfon neges glir y dylai'r tywallt gwaed ddod i ben.
"Yn anffodus, mae Israel wedi parhau gyda'i gweithredoedd milwrol, gan arwain at farwolaethau mwy na 23,000 o bobl. Mae llawer o'r marwolaethau yn blant sy'n hollol dorcalonnus.
"Mae Plaid Cymru yn credu ei bod hi'n bryd i'r gymuned ryngwladol gamu i'r adwy a bod yn fwy mentrus wrth gondemnio'r hyn sy'n digwydd yn Gaza.
"Wrth siarad â phobl sydd â pherthnasau allan yna, maen nhw'n dweud bod yr hyn sy'n digwydd yn Gaza yn llawer gwaeth na'r hyn rydyn ni'n ei weld yn cael ei adrodd yn y papurau newydd neu ar ein sgriniau teledu.
"Mae'r achos y mae De Affrica wedi'i gyflwyno yn yr ICJ yn drylwyr ac yn gymhellol. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dod â diwedd cyflym i'r tywallt gwaed sydd wedi nodi'r rhanbarth ers ymosodiad Hamas ar Hydref 7fed."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter