Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn galw am gydraddoldeb gyda’r Alban dros Wyliau Banc.
Mewn gohebiaeth, dywedodd Peredur Owen Griffiths wrth Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Fusnes a Masnach ei bod yn 'hen bryd i bobl Cymru fwynhau'r hyn sydd gan rai cymheiriaid yn y DU eisoes - gŵyl y banc ar ddiwrnod eu nawddsant.'
Aeth yr ohebiaeth at Kemi Badenoch AS ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi a fydd yn gweld y rhan fwyaf o bobl yn mynd i'r gwaith fel y byddent ar unrhyw ddiwrnod arall. Mae hyn yn hollol wahanol i'r Alban lle mae gŵyl y banc ar gyfer Dydd Sant Andrew. Yng Ngogledd Iwerddon, mae dau wyliau ychwanegol - un ar gyfer Dydd Sant Padrig ac un arall ar gyfer Brwydr y Boyne / Diwrnod yr Orangemen.
Mewn gohebiaeth at y Gweinidog Torïaidd, ysgrifennodd Peredur: 'Fel y gwyddoch eisoes, mae gan bobl Cymru (yn ogystal â Lloegr) y nifer lleiaf o wyliau banc yng Ngorllewin Ewrop.
'Mae ein 8 gwyliau cyhoeddus yn bitw o'i gymharu â'r 14 a fwynheir gan bobl Malta. Hyd yn oed os ydych yn ein cymharu â'r Alban a Gogledd Iwerddon, rydym ar ein colled ar un neu ddau o wyliau banc ychwanegol.
"Mae'n hen bryd i bobl Cymru gael mwynhau'r hyn sydd gan rai cymheiriaid yn y DU yn barod - gŵyl banc ar ddiwrnod eu nawddsant.
"Yfory ar Ddydd Gŵyl Dewi bydd cannoedd o filoedd o bobl yn teithio i'r gwaith pan ddylen nhw gael y diwrnod i ffwrdd i ymlacio yn ogystal â dathlu eu cenedl, eu hanes a'u diwylliant unigryw.’
Ychwanegodd: "Allwch chi esbonio pam fod pobl yng Nghymru ar eu colled o'u cymharu â phobl yr Alban a Gogledd Iwerddon?
Mae'r cyfnod diweddar wedi dangos bod modd rhoi gwyliau banc ychwanegol drwy orchymyn Llywodraeth San Steffan.
'Nid yw cydraddoldeb ag Albanwyr a phobl Gogledd Iwerddon yn llawer i ofyn amdano, felly yng ngeiriau Dewi Sant, rwy'n eich annog i "wneud y pethau bychain" a rhoi'r Ŵyl Banc ychwanegol honno inni.’
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter