Peredur yn siomedig am i San Steffan wrthod caniatáu Gŵyl y Banc Dydd Gŵyl Dewi

Pred_profile_2.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi beirniadu ymateb "diystyriol" gan San Steffan i'w gais am Ŵyl y Banc ychwanegol i Gymru ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Roedd Peredur Owen Griffiths AS yn ymateb ar ôl derbyn ymateb gan yr AS Torïaidd, Kevin Hollinrake, sy'n Weinidog y Llywodraeth dros Fenter, Marchnadoedd a Busnesau Bach.

Mewn llythyr at y Llywodraeth Dorïaidd, esboniodd Peredur ei bod yn bryd i bobl yng Nghymru gael cyfle i ddathlu eu nawddsant gyda gŵyl y banc, gan dynnu sylw at hynny: 'Mae ein 8 gwyliau cyhoeddus yn wael o'i gymharu â'r 14 a fwynhawyd gan bobl Malta.'

Ychwanegodd Peredur: ‘Hyd yn oed os ydych chi'n ein cymharu â'r Alban a Gogledd Iwerddon, rydyn ni ar ein colled ar un neu ddau o wyliau banc ychwanegol yn y drefn honno.

'Mae'n hen bryd i bobl Cymru fwynhau'r hyn sydd gan rai cymheiriaid yn y DU yn barod - gŵyl banc ar ddiwrnod eu nawddsant.'

Mewn ymateb, ysgrifennodd Mr Hollinrake: 'Rydym yn gwerthfawrogi'r teimlad y tu ôl i'r cais hwn ac yn cydnabod pwysigrwydd Dydd Gŵyl Dewi i bobl Cymru.

‘Er y gallai gŵyl banc ychwanegol fod o fudd i rai cymunedau a sectorau, mae'r gost i economi gŵyl banc ychwanegol yn parhau i fod yn sylweddol.

‘Mae'r dadansoddiad diweddaraf yn amcangyfrif mai'r gost i economi'r DU i ŵyl banc un-tro fod tua £2bn. "Mae'r Llywodraeth yn ystyried yn llawn effeithiau unrhyw wyliau banc ychwanegol, a dyna pam mai anaml y byddwn yn eu creu, er gwaethaf ceisiadau dro ar ôl tro i wneud hynny.’  

Ychwanegodd: 'O ran eich pwynt ar amrywio lwfans gŵyl y banc ledled y DU. Mae pob trefniant gŵyl banc wedi'i ddatblygu yn erbyn cefndir o wahanol hanesion, yn ogystal â gwahanol systemau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol a chyfreithiol.

‘Bydd angen ystyried ffactorau gwahanol ar wahân. Am y rhesymau hyn, nid oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid y trefniadau sefydledig a derbyniol ar gyfer gwyliau banc yng Nghymru.’

Mewn ymateb, dywedodd Peredur: "Mae'r achos dros adael i Gymru gael gŵyl banc ychwanegol yn glir ond mae San Steffan wedi bod yn ddiystyriol o fy nghais i a chais pobl eraill.

"Y cyfan ry'n ni'n gofyn am gydraddoldeb â phobl yr Alban a Gogledd Iwerddon ond - fel gyda llawer o bethau fel cyllid teg neu gyllid canlyniadol Barnett ar gyfer HS2- dydyn ni ddim yn cael ein hystyried yn deilwng o gydraddoldeb.

"Mae'r llythyr yn awgrymu nad yw ein hanes mor bwysig â hanes gwledydd eraill yn y DU.

"Mae'n amlwg bod San Steffan yn trin Cymru a'i thrigolion fel dinasyddion eilradd yn yr undeb honedig hwn.

"A fydd y newid hwn o dan Lywodraeth Lafur?  Dwi'n amau hynny'n fawr iawn."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2024-04-22 12:35:41 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns