Mae Plaid Cymru wedi mynegi ei gydymdeimlad â'r holl gartrefi a pherchnogion busnesau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt dros y penwythnos.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths ei bod yn "drist" gweld cymaint o gymunedau'n cael eu heffeithio gan lifogydd, yn enwedig mor fuan ar ôl stormydd 2020.
Bydd AS Dwyrain De Cymru yn treulio llawer o ddydd Llun yn ymweld â'r bobl a'r lleoedd y mae Storm Bert wedi effeithio arnynt, gan gynnwys Cwmtyleri lle cafwyd tirlithriad tomen lo.
Dywedodd: "Mae'n drychinebus gweld pobl yn cael llifogydd unwaith eto ar draws fy rhanbarth. Nid oedd yn hir ers i lawer o gartrefi a busnesau ddychwelyd i normalrwydd ar ôl Storm Dennis a rwan digwyddodd hyn.
"Mae yna lawer o gwestiynau o hyd am y rhybuddion a gyhoeddwyd ac a oeddent yn ddigon cywir.
"Mae yna hefyd farciau cwestiynau ynghylch digonolrwydd yr ymateb brys mewn rhai meysydd. Oedd pobl yn cael yr help oedd ei angen arnyn nhw cyn y storm a phryd roedd lefelau dŵr yn codi?
"Byddaf allan yn gwrando ar bobl yn y cymunedau sydd wedi'u heffeithio i weld beth maen nhw'n ei feddwl a beth maen nhw am ddigwydd yn y dyfodol."
Ychwanegodd: "Mae'r stormydd hyn yn digwydd gyda mwy o amlder a phan maen nhw'n digwydd, mae'r ymateb weithiau'n annigonol.
"Ydyn ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i liniaru yn erbyn tywydd garw?
"Dyna pam y galwodd Plaid Cymru am ymchwiliad cyhoeddus i stormydd 2020 fel y gellid dysgu gwersi a rhoi mesurau ar waith i leihau'r tebygolrwydd y bydd y stormydd hyn yn rhwygo ein cymunedau.
"Mae'r angen am ymchwiliad o'r fath yn amlwg yn dal yno."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter