Mae AS Plaid Cymru wedi galw o'r newydd am weithredu'r llywodraeth i helpu gweithwyr sydd wedi eu heffeithio gan gau dwy ffatri fwyd yng Ngwent.
Cododd Peredur Owen Griffiths, sy'n cynrychioli Dwyrain De Cymru, gau Tillery Valley Foods o Gwmtyleri ac Avara yn Y Fenni yn ystod cwestiynau i Weinidog yr Economi yn y Senedd.
Mae cau'r ddwy ffatri wedi colli bron i 700 o swyddi yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Ar lawr y Senedd, dywedodd Peredur: "Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cael y newyddion dinistriol bod dwy ffatri fawr yn fy rhanbarth yn cau—Tillery Valley Foods ac, yn fwy diweddar, Avara—gyda cholled gyfun o fwy na 600 o swyddi.
"Rwy'n gobeithio y bydd camau cyflym a chadarn gan y Llywodraeth hon mewn ymateb i'r ergyd drom i'r economi leol, a byddwn yn croesawu diweddariad gan y Gweinidog ynghylch pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i helpu i liniaru'r colledion swyddi hynny."
Yn ystod cwestiynau, cododd Peredur bryderon hefyd ynghylch a fyddai Tech Valley - prosiect gwerth £100m ar gyfer Glyn Ebwy - yn cyflawni ei addewidion.
"Rwyf hefyd yn awyddus i archwilio pa swyddi y gellir eu creu yn fy rhanbarth, yn benodol ym mhrosiect Cymoedd Technoleg Glyn Ebwy," meddai Peredur.
Pan ddatgelwyd hyn rhyw chwe blynedd yn ôl gan eich Llywodraeth, cafodd ei ystyried yn fuddsoddiad o £100 miliwn, a fyddai'n creu o leiaf 1,500 o swyddi mewn technolegau newydd a gweithgynhyrchu uwch.
"Dangosodd ymateb rhyddid gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru o fis Mawrth eleni mai dim ond 29 o swyddi sydd wedi'u creu y gallwch chi eu cyfateb, gan gyfaddef y gallai hwn fod yn ddarlun anghyflawn.
"Mae llawer o bobl yn gofyn ble mae'r swyddi hyn a addawyd. Mae'r wythnosau diwethaf wedi dangos pa mor wael mae angen y swyddi hyn.
"A allwch chi gadarnhau, Weinidog, fod y prosiect hwn yn dal ar y cardiau ac na fydd yn cael ei draddodi i'r ffeil sydd wedi'i nodi ' Siom arall i Flaenau Gwent'?"
Mewn ymateb, dywedodd Vaughan Gething ei fod yn "gadarnhaol" am ddyfodol Tech Valley a'i fod wedi bod yn cwrdd ag awdurdodau lleol am yr ymateb i'r cau ffatrïoedd bwyd diweddar.
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter