Mae AS Plaid Cymru wedi gofyn am sicrwydd am effaith cyllideb y DU ar y trydydd sector.
Cododd Peredur Owen Griffiths fater cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr i'r sector yn ystod rowndiau diweddaraf o gwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd.
Rhagwelwyd y bydd y cynnydd arfaethedig mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn cael ôl-effeithiau ariannol enfawr i'r trydydd sector.
Mae'r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Sefydliadau Gwirfoddol wedi amcangyfrif y gallai fod cymaint â £1.4 biliwn y flwyddyn ledled y DU ac mae wedi cael ei ddisgrifio ganddyn nhw fel y sioc fwyaf i'r sector ers pandemig COVID-19.
Yn ystod cwestiynnau, dywedodd Peredur Owen Griffiths: "Fel y gwyddoch, Prif Weinidog, mae llawer o sefydliadau yn y trydydd sector yn cynnal gwasanaethau hanfodol.
"Maent yn aml yn cael eu contractio gan y sector cyhoeddus i gyflawni dyletswyddau rheng flaen o blaid ac ar ran awdurdodau cyhoeddus.
"A allwch ddweud wrthyf pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda'r trydydd sector yng Nghymru am gyhoeddiadau'r gyllideb ers y cyhoeddiad sioc hwn?
"Ydych chi wedi gofyn i'ch cydweithwyr Llafur yn San Steffan am wneud eithriadau pellach i leddfu'r baich ariannol ar y trydydd sector?
"Ac yn olaf, sut ydych chi'n bwriadu lliniaru effaith y cyhoeddiad hwn ar sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru?"
Mewn ymateb, dywedodd Eluned Morgan: "... Bydd hanner y busnesau sydd â rhwymedigaethau cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai'n ennill neu'n gweld dim newid y flwyddyn nesaf."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter