Wrth ymateb i'r cyhoeddiad y bydd Tillery Valley Foods yn cau, dywedodd AS Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths: "Mae hyn yn newyddion trychinebus i dref Abertyleri a'r cymunedau cyfagos.
"Mae'r cwmni wedi bod yn gyflogwr da ers degawdau a bydd yn anodd ei ddisodli. Mae fy swyddfa wedi bod mewn cysylltiad â phobl a gyflogir a chlywed bod llawer o bobl yn cerdded i'r gwaith ac heb fathau eraill o drafnidiaeth, sy'n golygu y byddant yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith arall.
"Yn y Senedd, galwais ar Weinidog yr Economi i wneud popeth o fewn ei allu i geisio cadw'r ffatri hon ar agor ond, er gwaethaf misoedd o drafodaethau gyda pherchnogion y cwmni, mae'n ymddangos bod yr ymdrechion hynny wedi bod yn ofer.
"Byddaf nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi'r gweithwyr y mae'r penderfyniad hwn yn effeithio arnynt ac i archwilio unrhyw bosibilrwydd o gynnal presenoldeb gweithgynhyrchu bwyd ar safle Tillery Valley Foods.
"Mae'r gweithlu medrus, gyda degawdau o brofiad, eisoes yno. Byddai'r gweithwyr hyn yn asedau i unrhyw gwmni arall sy'n dymuno eu cyflogi."
Ychwanegodd Peredur: "Mae problem ehangach wrth law a hynny yw bregusrwydd cwmnïau cynhyrchu bwyd yng Nghymru. Tillery Valley Foods yw'r diweddaraf mewn nifer o ffatrïoedd sydd wedi cau yng Nghymru.
"Mae angen i'r Llywodraeth yng Nghymru fod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi'r sector hwn oherwydd ei fod yn dioddef costau cynyddol ynni a chost gynyddol deunyddiau crai. Mae miloedd o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn a ni allwn fforddio colli mwy o swyddi."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter