Wrth ymateb i'r newyddion bod pedwar nam wedi'u canfod mewn system ddiogelwch ar gyfer trên a oedd yn rhan o ddamwain angheuol, galwodd AS Plaid Cymru am "wersi i'w dysgu."
Roedd Peredur Owen Griffiths, llefarydd Plaid Cymru ar ran Trafnidiaeth, yn ymateb ar ôl ymchwiliad i'r ddamwain a oedd yn cynnwys dau drên ger Llanbrynmair, Powys, ym mis Hydref y llynedd.
Canfu ymchwiliad y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd nad oedd gwiriadau diogelwch ar y system brecio trên wedi'u cynnal oherwydd bod y trên wedi'i barcio wrth ymyl platfform, gan gyfyngu mynediad i'r gyrrwr ei archwilio.
Mewn ymateb i'r canfyddiadau, dywedodd Peredur: "Rwy'n gobeithio'n ddiffuant y bydd gwersi yn cael eu dysgu o hyn.
"Pe bai'r gwiriadau wedi'u cynnal yna efallai y byddai'r ddamwain wedi cael ei atal. Byddaf yn ceisio sicrwydd gan y Gweinidog Trafnidiaeth Llafur y bydd gweithdrefnau'n tynhau o ganlyniad i ganfyddiadau'r ymchwiliad hwn."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter