Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru wedi tynnu sylw at gynnydd sylweddol yn nifer y trenau sy'n cael eu canslo ar linell gymudwyr allweddol yn ei ranbarth.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths - llefarydd Plaid Cymru dros Drafnidiaeth - fod y naid mewn canslo trenau ar reilffordd Glyn Ebwy yn "frawychus" a galwodd ar Ysgrifennydd y Cabinet Llafur i fynd i'r afael â'r mater ar frys.
Roedd Aelod Senedd Canol De Cymru yn siarad ar ôl iddo ddatgelu ffigurau ar gyfer canslo trenau dros y chwe blynedd flaenorol.
Mae'r data yn dangos, ym mlwyddyn ariannol 2024/25 (hyd yma), bod 4.5% o wasanaethau trên wedi'u canslo. O gymharu, cafodd 2.9% o'r gwasanaethau ar lein Glyn Ebwy eu canslo yn 2023/24.
Os ydych yn cymharu'r ffigurau diweddaraf â nifer y canslo yn 2020/21 pan gafodd 0.8% o wasanaethau eu canslo, mae'r gwahaniaeth yn fwy llwm.
Dywedodd Peredur: "Gofynnwyd i mi edrych ar berfformiad llinell Glyn Ebwy gan etholwr yn dilyn cymhorthfa stryd ddiweddar yn ardal Rogerston.
"Mynegodd yr etholwr hwn ei rwystredigaeth gyda dibynadwyedd y gwasanaeth gan fod ei fab yn dibynnu arno i fynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith yng Nghaerdydd ac mae wedi cael ei siomi'n aml.
"Mae'n amlwg o'r ffigyrau bod nifer annerbyniol o ganslo wedi bod ar y lein yn ddiweddar. Ar linell fel llinell Glyn Ebwy - sydd ddim mor rheolaidd ag ardaloedd eraill - gall gwasanaeth sydd wedi ei ganslo olygu'n y gwahaniaeth rhwng bod yn hwyr i'r gwaith neu i gyrraedd ar amser.
"Er gwaethaf chwistrelliad mawr o arian ar gyfer y trenau yng Nghymru, bu dirywiad brawychus mewn perfformiad ar y llinell allweddol hon i deithwyr yn fy rhanbarth.
"Er mwyn pobl yng Ngwent sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwn, rhaid i'r Ysgrifennydd Cabinet Llafur gael gafael ar y sefyllfa a gwella dibynadwyedd y gwasanaeth.
"Os yw'r Llywodraeth o ddifrif am annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhaid iddyn nhw ddarparu gwasanaeth y gellir dibynnu arno."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter