Wrth ymateb i'r newyddion mai dim ond ffracsiwn o'r cyllid trafnidiaeth sy'n ddyledus iddi fydd Cymru yn ei gael ac y bydd yn cael ei ledaenu dros ddegawd, dywedodd Peredur Owen Griffiths nad oedd hyn yn "ddim mwy na “sleight of hand” gwleidyddol."
Dywedodd AS Dwyrain De Cymru, sydd hefyd yn llefarydd Plaid Cymru ar ran Trafnidiaeth yn y Senedd: "Mae'r cyhoeddiad hwn o £44.5m y flwyddyn i reilffyrdd Cymru dros ddegawd yn llawer llai na'r hyn sydd ei angen a'r hyn y mae Cymru'n ei haeddu.
"O dan y Torïaid yn San Steffan, cafodd Cymru gytundeb gwael ar gyllid trafnidiaeth. Does dim byd wedi newid rwan fod Llafur yn rhedeg y sioe gan ein bod yn dal i gael ein hamddifadu o filiynau sy'n ddyledus i ni o ganlyniad i brosiectau fel HS2 a'r llinell Rhydychen i Gaergrawnt.
"Mae Cymru wedi cael ei briwsion gan San Steffan ac mae Llafur yn disgwyl i ni fod yn ddiolchgar am hyn. Nid yw hyn yn ddim mwy na “sleight of hand” gwleidyddol gan Lafur o ran ein cyllid trafnidiaeth.
"Y canlyniad net yw bod biliynau yn dal i fod yn ddyledus ac y bydd ein trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i ddioddef tra wrthodwyd yr arian hwn sydd ei angen arnom.
"Os yw Llafur am wneud yn iawn ar eu haddewidion etholiadol cyn etholiad San Steffan, mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu'r cyllid teg sydd ei angen a'i haeddu gan ein cymunedau."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter