AS Plaid Cymru yn Siarad dros Ofalwyr Di-dâl

Pred_profile_3.jpg

Mae Peredur Owen Griffiths wedi galw am fwy o gefnogaeth i ofalwyr di-dâl yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog.

Gwnaeth AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru y galwadau yn ystod Wythnos Gofalwyr sy'n tynnu sylw at y cyfraniad aruthrol y mae gofalwyr yn ei wneud i'r gymdeithas ehangach.

Siaradodd Peredur hefyd â gofalwyr ifanc yn ystod sesiwn a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i dynnu sylw at y problemau a'r heriau sy'n eu hwynebu fel diffyg dealltwriaeth gan athrawon.

Wrth annerch y Prif Weinidog, dywedodd Peredur: "Mae ymchwil diweddar wedi datgelu bod tua 450,000 o bobl yn darparu gofal neu gymorth di-dâl yng Nghymru.

"Mae'r cyfraniad hwnnw, a anwyd allan o gariad ac anwyldeb tuag at deulu a ffrindiau, yn anodd ei feintioli. "Mae'n deg dweud bod y cyfraniad hwn i'n cymuned yn aruthrol, ac mae'n anodd dychmygu lle fydden ni heb ofalwyr di-dâl.

"Mae Plaid Cymru yn cydnabod y cyfraniad anhygoel yma wrth i ni nodi Wythnos Gofalwyr."

Ychwanegodd: "Canfu'r adroddiad a ddatgelodd yr ystadegyn syfrdanol hwn hefyd fod 35% o'r gofalwyr a holwyd yn dweud bod eu hiechyd a'u lles wedi bod yn dioddef o ganlyniad i ofalu.

"Rwy'n nodi, yn eich ateb yn gynharach ac yn natganiad y Llywodraeth yr wythnos hon, am gyllid ar gyfer seibiant gofalwyr a seibiannau byr.

"O ystyried bod mwy na thraean o ofalwyr di-dâl yn dioddef, a ydych chi'n hyderus bod y cyllid yn mynd yn ddigon pell ac y bydd yn cael ei ddefnyddio'n ddigon effeithlon?"

Mewn ymateb, dywedodd Mark Drakeford "... Mae mwy y gellid ei wneud bob amser pe bai cyllid pellach ar gael gennym."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-06-09 00:12:31 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns