'Plaid Cymru yn Gwrando ar y Cymoedd' – Peredur

Llanhilleth_Street_surgery_pic_07.10.21.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi croesawu fod ei blaid yn cynnal cynhadledd i drafod materion sy'n bwysig i gymunedau'r cymoedd.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS bod y digwyddiad ar gyfer aelodau'r blaid, gweithredwyr a chynghorwyr ar 18 Tachwedd ym Merthyr yn gyfle i ddod at ei gilydd, trafod problemau yn y cymoedd a chreu datrysiadau posib.

Y syniad yw y bydd y digwyddiad, a fydd yn cynnwys gwleidyddion etholedig gan gynnwys yr arweinydd Rhun ap Iorwerth, yn cynhyrchu syniadau polisi i'w gweithredu yn y blynyddoedd i ddod.

Dywedodd Peredur, a fydd hefyd yn mynychu'r digwyddiad yn Theatr Soar: "Y ffordd orau o gynrychioli ein cymunedau a'r bobl sy'n byw ynddynt yw cadw mewn cysylltiad a siarad â nhw. Dyna pam rwy'n cynnal cymhorthfeydd stryd yn rheolaidd ar draws fy rhanbarth.

"Os ydw i am gynrychioli pobl hyd eithaf fy ngallu, mae angen i mi gadw mewn cysylltiad â phobl. 

"Mae Plaid Cymru wastad wedi bod yn blaid sydd wedi'i gwreiddio yn y cymunedau mae'n eu cynrychioli ac mae Cynhadledd y Cymoedd yn ddiweddarach y mis hwn yn estyniad o'r athroniaeth honno.

"Bydd y gynhadledd yn dod â phobl o bob lefel o'r blaid at ei gilydd fel y gallwn drafod y materion a'r problemau a welwn mewn yn ein trefi a’n pentrefi. Gobeithio y gallwn gynnig atebion posibl o ganlyniad.

"Rwy'n gobeithio y bydd yr ymarfer hwn yn llywio gwaith grŵp y Senedd ac yn darparu syniadau ar gyfer maniffestos dros y blynyddoedd nesaf.

"Mae hefyd yn anfon neges glir bod Plaid Cymru yn gwrando ar y cymoedd a'n bod ni'n deall."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-11-03 09:10:05 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns