Mae AS Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i sicrhau nad yw'r tlotaf yn ysgwyddo'r baich o doriadau yn y gyllideb.
Tynnodd Peredur Owen Griffiths AS, sy'n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru, sylw y Prif Weinidog i’r bygythiad y mae aelwydydd yn ei wynebu o brisiau ynni cynyddol a rhoi caniatâd i dri phrif gyflenwr ynni ailgychwyn gosodiadau mesuryddion rhagdalu anwirfoddol.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Peredur: "Dros gyfnod y Nadolig, fe wnaeth Ymddiriedolaeth Trussell ryddhau ffigyrau oedd yn dangos mai Cymru sydd â'r defnydd uchaf o fanciau bwyd o unrhyw un o wledydd y DU; mewn gwirionedd, pan fydd y ffigyrau'n cael eu gwirio, fe welwch fod gan Gymru ddefnydd banc bwyd uwch nag unrhyw ran o Loegr.
"Mae'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn arbennig o amlwg.
"Dilynwyd hyn gan y newyddion bod EDF, Octopus a Scottish Power wedi cael caniatâd i ailgychwyn gosodiadau mesuryddion rhagdalu anwirfoddol, yn union fel y mae prisiau ynni yn codi.
"A allwch sicrhau y byddwch yn gwneud popeth o fewn eich gallu, yn ystod eich wythnosau olaf yn y swydd fel Prif Weinidog, i sicrhau nad yw'r toriadau na'r penderfyniadau a wneir yn San Steffan yn effeithio'n anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas?"
Mewn ymateb, fe wnaeth y Prif Weinidog gydnabod bod y ffigyrau ar ddefnydd banciau bwyd yn "llwm" ond ychwanegodd eu bod wedi ceisio amddiffyn pobl fregus gymaint â phosib yn y gyllideb.
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter