Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi siarad yn y Senedd am yr angen i sicrhau dyfodol elfen allweddol o economi Cymru cyn gynted a phosibl.
Defnyddiodd yr Aelod Senedd dros Ddwyrain De Cymru Gwestiynau'r Prif Weinidog i dynnu sylw at oedi San Steffan dros gymeradwyo cwmni Vishay i brynu Newport Wafer Fab.
Cytunodd y cwmni i gytundeb gwerth £144m i gaffael y safle ar ôl i Lywodraeth y DU orfodi'r perchennog Nexperia i werthu'r cwmni o dan reolau diogelwch cenedlaethol oherwydd ei gysylltiadau â China. Mae'r cytundeb yn destun adolygiad gan San Steffan fodd bynnag sydd bellach wythnosau ar ei hôl hi.
Dywedodd Peredur: "Ni fyddaf yn manylu ar hanes cythryblus y safle hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond mae'n ddiogel dweud bod y cannoedd o staff sy'n gweithio yno yn haeddu newyddion da o'r caffaeliad hwn.
"Er bod pencadlys y cwmni sydd â pencadlys mewn gwlad y mae'n debyg yw un o’n cynghreiriad agosaf, mae'n ymddangos bod San Steffan wedi bod yn llusgo eu traed o ran cymeradwyo'r caffaeliad.
"Mae'r oedi hwn yn gohirio buddsoddiad, maen nhw'n gohirio diogelwch swyddi ac maen nhw'n gohirio ehangu."
Ychwanegodd: "Ydych chi'n rhannu'r pryderon a'r rhwystredigaethau sydd gen i, yn ogystal â'r cannoedd sy'n gweithio ar y safle yn Newport Wafer Fab, am yr aros i San Steffan gymeradwyo safle mor allweddol i economi Cymru?
"Beth mae eich Llywodraeth chi'n ei wneud i sicrhau bod y broses hon yn cael ei chwblhau erbyn y dyddiad cau ar 22 Chwefror er mwyn diogelu'r diwydiant lled-ddargludyddion?"
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog: "Rwy'n cytuno â'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u gwneud.
"Gallwch fod yn sicr bod Gweinidog yr economi yn gwneud popeth o fewn ein gallu i berswadio Llywodraeth y DU i gyflawni'r amserlenni y maent hwy eu hunain wedi'u gosod ac i ddod â'r ansicrwydd sydd wedi'i wreiddio yn y penderfyniad a wnaethant hwy eu hunain yn y lle cyntaf."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter