Mae Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru wedi dweud bod diwygio'r GIG yn allweddol i fynd i'r afael â'r rhestrau aros uchaf erioed.
Dywedodd yr AS dros Ddwyrain De Cymru ei bod yn "bryd i Lafur roi'r gorau i osgoi eu cyfrifoldebau am iechyd, rhoi'r gorau i feio eraill a chymryd camau cadarnhaol".
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn datgelu bod 615,300 o gleifion ar restrau aros yng Nghymru - gyda 23,418 yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.
Mae ffigyrau'n dangos bod 139,992 ar restr aros cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn unig.
Wrth siarad ar ôl dadl gwrthblaid Plaid Cymru yn y Senedd a alwodd ar y Llywodraeth Lafur yng Nghymru i adolygu ei chynllun ar frys i leihau rhestrau aros y GIG, dywedodd Peredur ei bod yn bryd gweithredu.
"Efallai bod gennym Brif Weinidog Llafur newydd ar waith a Gweinidog Iechyd Llafur newydd yn ei le, ond mae wedi bod yn achos o déjà vu o ran ymdriniaeth eu plaid o'r GIG yng Nghymru," meddai Peredur.
"Rydym eisoes wedi gweld yr esgusodion yn cael eu rolio allan bod pawb arall ar fai am y llanast y mae'n rhaid i gleifion a staff ymroddedig y GIG ddelio ag ef yn ddyddiol.
"Mae'n bryd i Lafur roi'r gorau i osgoi eu cyfrifoldebau am iechyd, rhoi'r gorau i feio eraill a chymryd camau cadarnhaol."
"Mae'n allweddol na all diwygiadau o fewn y gwasanaeth aros aros i Lafur fynd i'r afael â rhestrau aros - rhaid mynd i'r afael â nhw ar y cyd â'i gilydd.
"Mae'n rhaid buddsoddi'n briodol yn yr agenda ataliol i gadw pobl allan o'r ysbyty, datblygu menter i fynd i'r afael â materion dwfn cadw staff, harneisio datblygiadau technolegol arloesol i ddod â gofal yn agosach at adref, buddsoddi a moderneiddio ystâd y GIG yn ogystal â sicrhau cytundeb cyllido teg i Gymru o San Steffan.
"Mae Llafur mewn llywodraeth yn edrych yn hen, blinedig ac wedi rhedeg allan o syniadau. Ar ôl rhedeg y GIG yng Nghymru am chwarter canrif, mae'n bryd cael arweinyddiaeth ffres ac uchelgeisiol sydd ddim ond am ddod gan Blaid Cymru i gyflawni dros Cymru."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter