Buodd AS Plaid Cymru i Siop Ailddefnyddio ym Mlaenau Gwent i glywed am eu gwaith yn lleihau tirlenwi.
Ymwelodd Peredur Owen Griffiths â'r Den, cyfleuster Arbed Gwastraff ar Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Roseheyworth yn Abertyleri, i gwrdd â staff a chlywed am eu gwaith.
Agorodd Siop Ailddefnyddio’r Den yn 2021 ac mae wedi dod yn boblogaidd yn gyflym gyda thrigolion lleol fel lle i roi eitemau diangen yn ogystal â chasglu bargen.
Ym mis Awst yn unig, fe wnaethant atal 9,398 kg o wahanol eitemau rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Ar hyn o bryd maent yn cefnogi'r ysgol gynradd leol gydag eitemau yn eu Prosiect Ailddefnyddio.
Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu Peredur â Rheolwr Elusen Wastesavers, Alun Harries.
Dywedodd Peredur: "Mae'n wych gweld y gwahaniaeth y mae Wastesavers yn ei wneud gyda'r lle hwn yn Abertyleri - eu cyntaf ym Mlaenau Gwent, gydag ail un wedi'i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf ar safle'r Fro Newydd yng Nglyn Ebwy.
"Maen nhw'n helpu'r amgylchedd drwy atal llawer o eitemau rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Maen nhw hefyd yn ymwneud â nifer o achosion lleol gwych, gan roi cymorth i'r rhai sydd ei angen fwyaf."
Ychwanegodd Peredur: "Yn aml maen nhw'n chwilio am roddion o eitemau ond gwnewch yn siwr cyn mynd ar yno oherwydd rhai dyddiau nid ydyn nhw'n gallu derbyn eitemau os ydyn nhw'n barod yn llawn."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter