Peredur yn condemnio llywodraeth Lafur am ddiffyg gweithredu dros Gaza

Gaza_Rally_Cardiff1.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi dweud bod ymateb pitw y Llywodraeth Lafur i'r rhyfel yn Gaza yn "siomedig".

Roedd Peredur Owen Griffiths AS yn ymateb i lythyr a dderbyniwyd gan Prif Weinidog Llafur, Vaughan Gething a gafodd ei holi am safiad ei lywodraeth ar Gaza.

Fis diwethaf, defnyddiodd Peredur FMQs i ofyn i'r Llywodraeth Lafur wneud datganiad diamwys ar gadoediad yn Gaza.

Yn ei ymateb yn y Siambr, dywedodd Mr Gething AS mai safbwynt y Llywodraeth oedd, ers "peth amser", y dylid cael cadoediad ar unwaith.    

Ysgogodd y cyfnewid hwn Peredur i ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am eglurhad ynghylch pryd roedd y llywodraeth wedi gwneud yr honiad hwn a'r hyn yr oeddent wedi'i wneud i sicrhau cadoediad parhaol ac ar unwaith.

Yn ei ymateb, ysgrifennodd y Prif Weinidog Llafur: 'Er nad yw polisi tramor wedi'i ddatganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi galw dro ar ôl tro am saibau dyngarol, yn ogystal â chefnogi galwadau am gadoediad yn ystod dadl y Senedd ar 7 Tachwedd 2023.

'Yn unol â chonfensiwn ynghylch materion a gadwyd yn ôl, ymatal rhag pleidleisio a wnaeth Gweinidogion Cymru yn ystod dadl mis Tachwedd, ond nid yw hynny'n golygu nad yw safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir.

'Galwodd fy rhagflaenydd am gadoediad yn ystod ei Gwestiynau Prif Weinidog terfynol ar 19 Mawrth mewn ymateb i gwestiwn gan Mabon ap Gwynfor ynghylch darparu cymorth i Gaza. Ysgrifennodd hefyd at Arweinydd yr Wrthblaid ym mis Rhagfyr 2023 yn nodi bod consensws cynyddol yng Nghymru y dylai'r Blaid Lafur gefnogi safbwynt y Cenhedloedd Unedig yn gryf ar gadoediad.

Ailadroddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol y safbwyntiau hyn yn fwyaf diweddar ar 1 Mai 2024. Mae consensws rhyngwladol cynyddol ar gyfer cadoediad, y mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi.'

Dywedodd Peredur: "Cefais fy siomi gan ymateb y Prif Weinidog. Cynhyrchodd dystiolaeth tila o'i honiad bod ei lywodraeth wedi cefnogi cadoediad parhaol ac ar unwaith am "beth amser".

"Dyw sylw yma ac acw gan weinidogion llywodraeth unigol ddim yn gyfystyr â safbwynt y llywodraeth yn fy marn i.

"Doedd dim syndod felly bod ei sylwadau yn y Cyfarfod Llawn am gadoediad wedi synnu pawb. 

"Yna mae'n honni bod ymatal rhag pleidleisio gweinidogion y llywodraeth yn y ddadl a arweiniwyd gan Blaid Cymru dros gadoediad yn unol â chonfensiwn ynghylch materion a gadwyd yn ôl, ond nid oedd unrhyw amharodrwydd i bleidleisio gan weinidogion y Llywodraeth ar fater polisi tramor ar Fawrth 9fed 2022 pan gafwyd dadl yn y Senedd ar y rhyfel yn yr Wcrain."

Ychwanegodd: "Yn bwysicaf oll ac yn ddamniol oll, ni ddarparodd y Prif Weinidog unrhyw dystiolaeth o sut mae ei lywodraeth wedi darlledu eu trawsnewidiad diweddar i gadoediad parhaol ac ar unwaith yn Gaza. Ni all un ond tybio nad oes fawr ddim neu ddim i'w adrodd ar y mater.

"Wrth i gannoedd o filoedd o bobol o Gaza sefyll ar ochr y dibyn, gyda Lluoedd Amddiffyn Israel yn nesáu at eu lloches olaf, mae hyn yn hynod siomedig.

"Mae trychineb ddyngarol mawr yn gwaethygu bob dydd yn Gaza oherwydd diffyg bwyd, cyfleusterau meddygol a chyflenwadau difrifol.

"Nid dyma'r amser i'r Llywodraeth Lafur fod yn wyliwr o bell neu yn swil. 

"Dylen nhw fod yn lobïo Llywodraeth y DU i fynd yn fwy llym ar Israel a stopio’u harfogi yn ogystal â gwneud yn glir i Israel bod y dinistr a'r lladd yn Gaza yn annerbyniol.

"Dylai'r Llywodraeth Lafur hefyd weithredu polisi dad-fudsoddi yn Israel nes bod heddwch yn cael ei adfer.

"Dylent ategu fy ngalwad ar i bobl barhau i foicotio yn yr un modd a oedd mor effeithiol yn erbyn apartheid yn Ne Affrica.

"Mae pobl yn ddig oherwydd eu diffyg ymateb a diffig brwdfrydedd i ddwyn Israel i gyfrif."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2024-05-22 10:26:17 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns