Wrth ymateb i'r newyddion am y tân enfawr yn Rogerstone, dywedodd Peredur Owen Griffiths AS: "Roedd yn dorcalonnus gweld y dinistr llwyr ar Stad Ddiwydiannol y Wern y bore wedi'r tân.
"Mae fy nghalon yn mynd allan i bob busnes a phob gweithiwr sy'n cael ei effeithio gan y digwyddiad hwn.
"Rwy'n arbennig o drist o weld y difrod a achoswyd i feithrinfa Wibli Wobli. Dim ond mis diwethaf oeddwn i yno i fod yn Siôn Corn a rhoi anrhegion i'r plant.
"Mae'r perchennog, Natasha, wedi gweithio'n ddiflino i gychwyn y busnes, addasu'r safle i ddod yn amgylchedd cynnes a chroesawgar a recriwtio tîm ardderchog o staff. Nid oedd yn syndod ei fod wedi cyrraedd capasiti yn gyflym.
"Mae hon yn rhwystr mawr ond rwy'n siŵr gyda dycnwch a dyfalbarhad gwaith Natasha, bydd hi'n ail-sefydlu Wibli Wobli ac yn sicrhau ei fod yn dod yn ôl yn fwy ac yn well."
Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter