Uned Iechyd Meddwl Angen Gwella'n Gyflym – Peredur

Pred_profile_2.jpg

Mae AS Plaid Cymru wedi mynegi ei siom am ganfyddiadau damniol arolygiad dirybudd o uned iechyd meddwl arbenigol ym Mlaenau Gwent.

Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS ei bod yn hanfodol bod y diffygion a ganfuwyd yn Ysbyty 'r Tri Chwm' yn cael eu cywiro mor gyflym â phosib er budd cleifion.

Roedd yr Aelod dros Ddwyrain De Cymru yn gwneud sylw ar ôl i adroddiad gael ei gyhoeddi am ymweliad annisgwyl gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) â'r cyfleuster - sy'n darparu ar gyfer cleifion dros 65 oed - ym mis Awst eleni.

Dywedodd arolygwyr na allent fod yn sicr bod iechyd, diogelwch a lles cleifion, staff ac ymwelwyr yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Yn ogystal, nid oedd risgiau posibl o niwed yn cael eu nodi, eu monitro a, lle bo hynny'n bosibl, eu lleihau na'u hatal."

Canfu AGIC hefyd fod rheiliau llaw ar goll mewn coridorau wardiau gydag ymylon miniog agored a bod clychau galwadau wedi'u lleoli lle na ellid eu cyrraedd gan gleifion oedd yn gorwedd.

Canfuwyd hefyd bod ataliadau cleifion wedi'u cynnal gan staff nad oeddent wedi'u hyfforddi'n llawn yn y dechneg briodol.

Dywedodd Peredur: "Rwy'n bryderus am ganfyddiadau'r adroddiad. Mae'r diffygion a amlygwyd gan AGIC yn dangos bod angen gwneud gwelliannau cyn gynted â phosibl er budd cleifion.

"Mae'n annerbyniol bod rheiliau llaw ar goll a bod rhai cleifion ddim yn gallu galw am staff os oedd angen sylw arnyn nhw.

"Oni bai eu bod yn cael eu cywiro, gallai diffygion o'r fath beri risg o anaf difrifol neu farwolaeth i'r cleifion bregus sy'n cael eu trin yn yr uned.

"Cafodd rhai o'r diffygion eu nodi yn ystod arolygiad arall bum mlynedd yn ôl a gwelwyd eu bod yn dal i aros i gael eu trwsio. Nid yw hynny dderbyniol - rwy'n gobeithio y bydd y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn cael eu datrys yn gyflym."

Ychwanegodd Peredur: "Roedd yn galonogol darllen bod yr arolygiad wedi canfod bod staff yn trin cleifion â pharch, yn gwrtais, yn gefnogol, ac yn gymwynasgar.

"Canfuwyd bod nyrsys hefyd yn wybodus o ran anghenion cleifion unigol ac roedd perthnasau proffesiynol da wedi'u sefydlu i ddarparu gwell gofal i gleifion."

Os hoffech chi gefnogi Peredur a Plaid Cymru, cliciwch ar y linc yma.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Gareth Llewellyn
    published this page in Newyddion 2023-11-10 10:37:57 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd

Liquid syntax error: Error in tag 'subpage' - No such page slug campaigns